Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 8 Chwefror 2024
Amser:
10.40 -
14.13
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13695
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Joel James AS (yn lle Tom Giffard AS) Llyr Gruffydd AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Y Farwnes Deborah Bull, Ty’r Arglwyddi Eluned Haf, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Tom Kiehl, UK Music Ruth Cocks, British Council Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Haidee James (Ail Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Anisah Johnson (Dirprwy Glerc) Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) Sara Moran (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS a Tom Giffard AS, ac roedd Joel James AS yn bresennol fel dirprwy ar ran Tom Giffard AS.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Farwnes Bull.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kevin Brennan AS.
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyngor Celfyddydau Cymru a National Theatre Wales ynghylch yr Adolygiad Buddsoddi.
3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghylch effaith y gostyngiadau yn y gyllideb ar gyrff hyd braich.
3.4 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg ynghylch y Gofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol cyn cytuno i ddychwelyd at y pwnc yn y cyfarfod nesaf, a drefnwyd ar gyfer 28 Chwefror 2024.
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft cyn cytuno arno.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn 2024 cyn cytuno arni.
9.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Celfyddydau Rhyngwladol Cymru; UK Music; a British Council Cymru.
9.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at UK Music i ofyn am ragor o wybodaeth yn gysylltiedig â’r sesiwn.
10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.